Location
Monmouthshire
Job Function
Mobility aids
Salary Details
£19,912 per annum pro rata (10.94 per hour)
Contracted Hours Per Week
35
Careers Site Advertising End Date
27 Oct 2021

About The Role

Coordinator - Mobility Aids Service Volunteers
Location: Newport (travel required across South Wales)
Contract type: Fixed-term to 31st March 2023
Hours: Full-time (35 hours per week - Monday to Friday 0900-1700)
Salary: £19,912 per annum pro rata
 
Cydlynydd – Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymhorthion Symud
Lleoliad: Casnewydd (angen teithio ar draws De Cymru)
Math o gontract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2023 
Oriau gwaith: Amser llawn (35 awr yr wythnos - dydd Llun i ddydd Gwener 0900-1700)
Cyflog: £19,912 y flwyddyn pro rata



Are you a great team player who could take on a staff role, supporting and line managing a team of dedicated volunteers? 

We are looking for a Coordinator to work within our Mobility Aids Service based in Newport. 

The role holder will line manage a small team of Mobility Aids volunteers who give their time to support the service. You will lead on the induction, training, supervision and support of volunteers and be responsible for coordinating the day to day volunteer operations within your location. 

In this role you will also maintain volunteer records, rosters and delivery schedules to ensure that service users continue to receive an exceptional level of customer service.
 
Please note that this role will require travel across the South Wales area, including to sites in Llanelli and Cardigan.
 
The role includes working face to face with service users and social distancing will not be able to be maintained at all times therefore, it may not be suitable for people that may be at higher risk of harm from Covid-19.

 
Ydych chi’n gallu gweithio’n dda mewn tîm a chyflawni rôl fel aelod staff i gefnogi a bod yn rheolwr llinell i dîm o wirfoddolwyr ymroddedig? 

Rydyn ni’n chwilio am Gydlynydd i weithio yn ein Gwasanaeth Cymhorthion Symud yng Nghasnewydd. 

Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar dîm bach o wirfoddolwyr Cymhorthion Symud sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r gwasanaeth. Byddwch yn arwain y gwaith o gynefino, hyfforddi, goruchwylio a chefnogi gwirfoddolwyr, ynghyd â bod yn gyfrifol am gydlynu gweithrediadau gwirfoddolwyr o ddydd i ddydd yn eich lleoliad. 

Yn y rôl hon, byddwch hefyd yn cadw cofnodion, rhestrau gwaith ac amserlenni gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i dderbyn lefel eithriadol o wasanaeth i gwsmeriaid.
 
Sylwch y bydd y swydd hon yn golygu teithio ar draws ardal De Cymru, gan gynnwys i safleoedd yn Llanelli ac Aberteifi.
 
Mae’r rôl yn cynnwys gweithio wyneb yn wyneb â defnyddwyr gwasanaeth ac ni fydd hi’n bosib cadw pellter cymdeithasol bob amser, felly efallai na fydd hi’n addas i bobl sy’n wynebu risg uwch o niwed yn sgil Covid-19.

 
 
Say hello to the team...

The British Red Cross Mobility Aids Service (MAS) offers the loan of wheelchairs and other mobility items to any individual on a short-term basis. Our aim is to ensure that during a period of personal crisis everyone is able to access an item of equipment they may need, no matter whoever or wherever they are.
 
Gair am y tîm…

Mae Gwasanaeth Cymhorthion Symud y Groes Goch Brydeinig yn cynnig benthyg cadeiriau olwyn ac eitemau symudedd eraill i unrhyw unigolyn am gyfnod byr. Ein nod yw sicrhau bod pawb, yn ystod cyfnod o argyfwng personol, yn gallu cael gafael ar eitem o gyfarpar sydd arnyn nhw eu hangen, pwy bynnag ydyn nhw neu ble bynnag maen nhw.

 
Diversity is something we celebrate...

At the British Red Cross, we are looking for the best people to help us provide support to millions of people affected by crisis in the UK. We want our team to reflect the diversity of the communities we serve, offering equal opportunities to everyone, regardless of race, colour, religion, sex, sexual orientation, gender identity, age, or disability.
 
Mae amrywiaeth yn rhywbeth rydyn ni’n ei ddathlu...

Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i ddarparu cymorth i filiynau o bobl yn y DU y mae argyfwng wedi effeithio arnynt. Rydym am i’n tîm adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb heb ystyried hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, oedran nac anabledd.
 
 
This role might be for you if...
 
-You have line management / supervisory experience. You are comfortable supporting others to help them get a job done.
-You're cool, calm, and collected - you can prioritise tasks and manage your workload under pressure, as well as planning and organising others' workloads
-You're computer confident - you have the ability to work with an online stock management system and Microsoft Office. You can produce reports based on information stored on these stock management systems.
-You're a team player - you're great at working within a group but comfortable on your own too
-You’re a confident communicator in various scenarios (face to face, telephone, video call etc)
-You have the ability to travel across the South Wales area (Driver preferred)
 
Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi os oes gennych chi’r profiadau/sgiliau canlynol...
 
-Profiad o reoli llinell/goruchwylio. Rydych yn gyfforddus yn cefnogi pobl eraill i’w helpu i ddwyn y maen i’r wal.
-Rydych yn ddigynnwrf ac yn ddigyffro – gallwch flaenoriaethu tasgau a rheoli eich llwyth gwaith o dan bwysau, yn ogystal â chynllunio a threfnu llwyth gwaith pobl eraill.
-Gallu defnyddio cyfrifiaduron yn hyderus – gweithio gyda system rheoli stoc ar-lein a Microsoft Office. Gallu cynhyrchu adroddiadau yn seiliedig ar wybodaeth a gedwir ar y systemau rheoli stoc hyn.
-Rydych chi’n aelod da o dîm – rydych chi’n wych am weithio mewn grŵp, ond yn gyfforddus yn gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun hefyd.
-Rydych chi’n gyfathrebwr hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd (wyneb yn wyneb, dros y ffôn, galwad fideo ac ati)
-Rydych chi’n gallu teithio ar draws ardal De Cymru (yn ddelfrydol yn gallu gyrru)
 
Closing date for application is 23.59 on Wednesday 27th October 2021 with interviews to follow during week commencing Monday 1st November
 
Should you have any questions on this role please email us at recruitment@redcross.org.uk quoting vacancy ID 3300
 
For guidance on completing your application, please refer to ‘Additional Information’ attached.
  
Please note that if we receive a very large volume of applications, we reserve the right to close advertising early. Therefore it would be advisable to submit your application for this vacancy as early as possible

 
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 23:59, ddydd Mercher 27 Hydref 2021. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 1 Tachwedd
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl hon, anfonwch e-bost atom yn recruitment@redcross.org.uk gan nodi ID y swydd wag 3300
 
I gael arweiniad ar lenwi eich cais, darllenwch ‘Gwybodaeth Ychwanegol’ sydd ynghlwm.
  
Cofiwch, os bydd nifer fawr iawn o geisiadau’n dod i law, rydyn ni’n cadw’r hawl i gau’r hysbysebu’n gynnar. Felly, gorau po gyntaf i chi gyflwyno eich cais am y swydd wag hon.

 

A little bit more about us...

The British Red Cross help anyone, anywhere in the UK; get the support they need if crisis strikes. From hiring a wheelchair or dealing with loneliness, to adjusting to life in a new country - we're there when you need us. 

Our organisation was born out of a desire to bring help without discrimination. 
Impartiality and neutrality have been central values for the Red Cross since we started.

At the British Red Cross, we are looking for the best people to help us provide support to millions of people affected by crisis in the UK. We want our team to reflect the diversity of the communities we serve, offering equal opportunities to everyone, regardless of; age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sex, or sexual orientation. 

Diversity is something we celebrate and we want you to be able to bring your authentic-self to the Red Cross. We want you to feel that you are in an inclusive environment, and a great position to help us spread the power of kindness.

In the British Red Cross we will not tolerate any form of misconduct, including sexual harassment, exploitation and abuse. We have a code of conduct in place, and are committed to creating a culture of integrity in the organisation where misconduct is not tolerated, situations of abuse are quickly investigated and perpetrators are dealt with effectively.

If you are appointed to a role within BRC you will be subject to the organisation's Code of Conduct, a copy of which you can find on our website.

As part of its recruitment and selection process the British Red Cross undertakes DBS (Disclosure and Barring Service) checking of all individuals who regularly work with or have access to children and vulnerable adults.

If driving is an essential requirement of the role, appropriate driver checks will be completed in line with current policy.

The British Red Cross, incorporated by Royal Charter 1908, is a charity registered in England and Wales (220949) and Scotland (SC037738).

Follow us on Twitter @RedCrossJobsUK and on Linked in - British Red Cross, to hear about our latest job vacancies. 

Gair amdanom ni...

Mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu unrhyw un, unrhyw le yn y DU i gael y cymorth sydd ei angen arnynt os bydd argyfwng. O logi cadair olwyn, delio ag unigrwydd neu addasu i fywyd mewn gwlad newydd – byddwn yno pan fyddwch ein hangen. Gwraidd ein sefydliad oedd dyhead i roi cymorth heb wahaniaethu. 

Mae didueddrwydd ac amhleidioldeb wedi bod yn werthoedd canolog i’r Groes Goch ers y cychwyn cyntaf. Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i ddarparu cymorth i filiynau o bobl yn y DU y mae argyfwng wedi effeithio arnynt. Rydym am i’n tîm adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb heb ystyried hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, oedran nac anabledd. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac rydym am i chi allu bod yn chi eich hun yn y gwaith, a theimlo eich bod mewn safle gwych i’n helpu ni i ledaenu pŵer caredigrwydd. Nid ydym yn goddef unrhyw fath o gamymddwyn, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, camfanteisio a cham-drin. Mae gennym god ymddygiad ar waith ac rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o uniondeb yn y sefydliad, lle nad yw camymddwyn yn cael ei oddef, lle rydym yn ymchwilio i sefyllfaoedd o gam-drin yn gyflym, a lle rydym yn delio â thramgwyddwyr yn effeithiol.  Os byddwch yn cael eich penodi i rôl yn y Groes Goch Brydeinig, byddwch yn ddarostyngedig i God Ymddygiad y sefydliad. Mae copi ohono ar gael ar ein gwefan.

Fel rhan o’i phroses recriwtio a dethol, mae’r Groes Goch Brydeinig yn gofyn am archwiliad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer pob unigolyn sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant ac oedolion agored i niwed neu sydd â mynediad atynt. Os yw gyrru’n un o ofynion hanfodol y rôl, bydd gwiriadau gyrrwr priodol yn cael eu gwneud yn unol â’r polisi cyfredol.

Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi’i hymgorffori gan Siarter Frenhinol 1908 ac yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (220949) a’r Alban (SC037738).

Dilynwch ni ar Twitter – @RedCrossJobsUK ac ar LinkedIn – British Red Cross, i glywed am ein swyddi gwag diweddaraf.

Connecting human kindness with human crisis

Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfyngau dynol


Other jobs like this

Location
Monmouthshire
Job Function
Mobility aids
Salary Details
£19,912 per annum pro rata (10.94 per hour)
Contracted Hours Per Week
35
Careers Site Advertising End Date
27 Oct 2021
Location
Carmarthenshire
Job Function
Retail
Salary Details
£16,573 per annum pro rata
Contracted Hours Per Week
14
Careers Site Advertising End Date
31 Oct 2021
Location
Ceredigion
Job Function
Care Delivery
Salary Details
£18,009 per annum pro rata
Contracted Hours Per Week
35
Careers Site Advertising End Date
31 Oct 2021