Teitl y Swydd: Cydlynydd Achosion
Lleoliad: De Cymru (Hybrid; gyda sylfaen gwasanaeth yng Nghasnewydd a swyddfeydd yng Nghaerdydd, gweithio gartref a safleoedd cymunedol/allgymorth yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe
Cyflog: £27,423 y flwyddyn yn seiliedig ar 35 awr yr wythnos
Contract: Tymor Penodol hyd at fis Medi 2028
Allwch chi helpu’r Groes Goch Brydeinig i ddarparu cymorth hanfodol i geiswyr lloches, ffoaduriaid, a mewnfudwyr sy’n agored i niwed ar draws Cymru? Fel rhan o’n tîm Cefnogi Ffoaduriaid ac Adfer Cysylltiadau Teuluol, byddwch yn cydlynu gwaith achos o ansawdd uchel ac yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr cyfreithiol, partneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau mynediad at gyngor cyfreithiol a gwasanaethau hanfodol.
Mae’r rôl hon wedi’i hariannu gan y Fenter Cyfiawnder Gyda’n Gilydd hyd at fis Medi 2028.